Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 7 Mai 2014
i'w hateb ar 14 Mai 2014

 

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.

(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)

 

Gofyn i'r Gweinidog Cyllid

 

1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllido prosiectau cyfalaf yng Nghymru? OAQ(4)0395(FIN)

 

2. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drefniadau cynllunio ariannol tymor canolig ym mhortffolio cyllid Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0407(FIN)

 

3. Julie James (Gorllewin Abertawe): Will the Minister make a statement on the use of Invest-to-Save funding to improve efficiency in public services? OAQ(4)0411(FIN)

 

4. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei thrafodaethau gyda swyddogion yr UE ynglŷn â chyllid yr UE 2014-20? OAQ(4)0399(FIN)

 

5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddiad cyfalaf yn ardal Môn a Menai? OAQ(4)0409(FIN)W

 

6. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cynnal gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chyllid ar gyfer prosiectau seilwaith mawr? OAQ(0406(FIN)W

 

7. Janet Finch-Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniad cyllideb i'r portffolio Tai ac Adfywio? OAQ(4)0408(FIN)

 

8. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gyfarfodydd diweddar y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda Gweinidogion Trysorlys y DU i drafod datganoli pwerau ariannol i Gymru? OAQ(4)0404(FIN)

 

9. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi eu cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â chyllido prosiectau cyfalaf yn GIG Cymru? OAQ(4)0405(FIN)

 

10. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei phrif ystyriaethau wrth ddyrannu'r gyllideb i'r portffolio Tai ac Adfywio? OAQ(4)0396(FIN)

 

11. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drefniadau llywodraethu i gyrff sy'n cael grantiau yng Nghymru? OAQ(4)0397(FIN)

 

12. Leighton Andrews (Rhondda):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei hadolygiad o ddangosyddion economaidd? OAQ(4)0398(FIN)

 

13. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllid buddsoddi i arbed yn Islwyn? OAQ(4)0400(FIN)

 

14. Andrew RT Davies: (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllido blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer Canol De Cymru a gynhwysir yn y Rhaglen Lywodraethu? OAQ(4)0410(FIN)

 

15. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y dyraniad cyllid cyffredinol i'r portffolio Addysg a Sgiliau? OAQ(4)0403(FIN)

 

Gofyn i'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

 

1. Nick Ramsay (Mynwy):A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei blaenoriaethau allweddol ar gyfer llywodraeth leol? OAQ(4)0415(LG)

 

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru):A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i adolygu'r system dreth gyngor yng Nghymru? OAQ(4)0423(LG)W

 

3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ariannu rhaglenni teledu cylch cyfyng gan awdurdodau lleol? OAQ(4)0412(LG)W

 

4. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drefniadaeth y Gwasanaethau Tân ac Achub yng ngorllewin Cymru? OAQ(4)0410(LG)

 

5. Alun Ffred Jones (Arfon):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am berfformiad gwasanaethau a gaiff eu darparu gan awdurdodau lleol? OAQ(4)0418(LG)W

 

6. Janet Finch Saunders (Aberconwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd y fenter ffrydio/gwe-ddarlledu trafodion cynghorau yn fyw yng Nghymru? OAQ(4)0419(LG)

 

7. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adnoddau cyfieithu i gynghorau cymuned? OAQ(4)0422(LG)W

 

8. Eluned Parrott (Canol De Cymru): Pa asesiad diweddar y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o berfformiad awdurdodau lleol? OAQ(4)0420(LG)

 

9. Keith Davies (Llanelli):A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau y mae wedi eu cael gydag Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(4)0421(LG)W

 

10. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa gynnydd y mae'r Gweinidog yn ei wneud o ran lleihau nifer yr achosion o gam-drin domestig yng Nghymru? OAQ(4)0416(LG)

 

11. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hygyrchedd cyfarfodydd awdurdodau lleol? OAQ(4)0417(LG)

 

12. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drefniadau cyflog i staff awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ(4)0411(LG)

 

13. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran cyflwyno cynllun cerdyn i gyn-filwyr yng Nghymru? OAQ(4)0409(LG)

 

14. Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau llywodraeth leol yng Ngogledd Cymru? OAQ(4)0414(LG)

 

15. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(4)0413(LG)

 

Gofyn i Gomisiwn y Cynulliad

 

1. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am rwystro mynediad i safleoedd rhyngrwyd drwy gyfrifiaduron y Cynulliad? OAQ(4)0080(AC)